Annwyl gyfeillion

Gyda golwg ar y galw am syniadau i hywyddo'r Gymraeg yn y gweithle, hoffwn gefnogi'r galw i gynyddu'r ganran o fyfyrwyr o Gymru a gaiff le yn yr ysgol feddygol yng Nghaerdydd. Dylai hynny sicrhau canran uwch o Gymry Cymraeg fel bod mwy o feddygon Cymraeg eu hiaith yn cael eu hyfforddi i gymryd swyddi yng Ngymru.

Deallaf mai rhyw 10% o fyfyrwyr ysgol feddygol Caerdydd a ddaw o Gymru, canran isel iawn o gymharu â'r sefyllfa gyfatebol yng ngwledydd eraill y DU. Gwn fy hun am ddau fyfyriwr Cymraeg eu hiaith y gwrthodwyd lle iddynt yng Nghaerdydd eleni, a gafodd lefydd yn ddidrafferth mewn ysgolion meddygol yn Lloegr. Felly nid prindernymgeiswyr o Gymru yw'r rheswm o anghenraid.

Dioch am y cyfle i gyflwyno'r sylwadau hyn.

Yn gywir

Glenys M Roberts